Canolfannau Cymunedol

Mae Cyngor y Dref wedi datblygu rhwydwaith o saith ganolfan gymunedol drwy'r dref; maent yn cael eu defnyddio'n gyson gan y gymuned leol am amryw weithgaredd fel cylchau chwarae, partion penblwydd, cyfarfodydd, dosbarthiadau dawnsio, dosbarthiadau cadw'n heini a.y.y.b.
Mae'n bolisi gan y Cyngor i adael i grwpiau'r henoed lleol ddefnyddio'r canolfannau am ddim ar un noswaith yr wythnos.

Mae mwyafrif o'r canolfannau wedi eu trawsnewid o'u defnydd blaenorol, er mwyn cadw rhai o adeiladau hanesyddol y dref at ddefnydd y gymuned. Y ddwy esiampl orau yw Glenalla a Lakefield; dau gapel a ddiogelwyd gan Gyngor y Dref rhag eu dymchwel sydd wedi eu cofrestru gyda CADW fel adeilad rhestredig Gradd 2; cydnabuwyd y ddau gynllun adnewyddu gan Wobr Pwyllgor Tywysog Cymru am adnewyddu adeiladau hanesyddol.

Cysylltwch a'r Swyddfa 01554774352 neu enquiries@llanellitowncouncil.gov.uk i hurio unrhyw un o'r canolfannau os gwelwch yn dda.

Dyma'r canolfannau