Canolfan Gymunedol Maesllyn
Yr adeilad hwn yn wreiddiol oedd hen gapel Siloh y Methodistiaid Calfinaidd a godwyd ar ddiwedd y 1870au, a orfodwyd i gau ei ddrysau yn y 1970au. Prynwyd y Capel ac eiddo’r Gofalwr cyfagos gan y Cyngor Tref ym mis Ebrill 1978. Cawsant eu trwsio a’u hadfer yn helaeth i’w trosi’n Ganolfan Gymunedol, gyda phrif neuadd yn ddigon mawr i’w defnyddio fel cwrt badminton.
Cafodd y cynllun adfer ei gydnabod gan Wobr Pwyllgor Tywysog Cymru am adfer adeiladau hanesyddol.
Mae'r Ganolfan wedi cael ei hailwampio'n sylweddol ymhellach i atgyweirio ffabrig yr adeilad (gan gynnwys to llechi newydd) ac i wella'r cyfleusterau sydd ar gael.
I archebu neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar: 01554 774352; neu e-bostiwch: enquiries@llanellitowncouncil.gov.uk
Lleoliad
Ffordd Maesllyn, Llanelli SA15 2UE
Cyfleusterau
- Parcio ar y stryd
- Cegin
- Gwresyn cael ei gynnwysyn y tâlllogi
- Nid yw offer TG ar gael
- 2 x Ystafell Canolfan Cymunedol
- 2 x Ystafell Cyfweld
- WIFI
- Toiledau
- Cegin
Archebua Thaliadau Llogi
Cysylltwch â ni (01554 774352)