PROSIECT CWRT CRUYFF PENYFAN

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Llun 31ain Ionawr ar Gwrt Cruyff Penyfan ym Mharc Penyfan. Mae Cyngor Tref Llanelli yn datblygu’r cwrt gyda chymorth ariannol Sefydliad Cruyff (a sefydlwyd gan y pêl-droediwr chwedlonol o’r Iseldiroedd, Johan Cruyff, a gafodd y freuddwyd ar ôl ei yrfa, i greu lle i blant ddatblygu drwy chwaraeon), Cronfa Cyllid Dargediedig Cyngor Sir Caerfyrddin, Cronfa Eglwys Cymru Cyngor Sir Caerfyrddin a Chlwb Rotari Llanelli a'r Cylch.
 
Bydd y gwaith o adeiladu'r Cwrt Chwaraeon yn cymryd tua 8 wythnos i'w gwblhau ac yn ystod yr amser hwn fydd y cae MUGA a'r cwrt pêl-fasged bresennol ym Mharc Penyfan yn cael eu cymryd allan o ddefnydd a'i ddileu.
 
Bydd y gwaith yn cael ei wneud o tua 8yb – 16.30yp a’r gobaith yw y bydd cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn ystod y prosiect. Nodwch hefyd, yn ystod y gwaith, y bydd y ganolfan ailgylchu ym maes parcio'r parc yn cael ei symud i wneud lle i'r compownd gwaith.
 
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd prosiect y Cwrt Chwaraeon arloesol ar gael i’w ddefnyddio gan y Gymuned ac ysgolion lleol gyda gweithgareddau wedi’u trefnu gan Gymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Penyfan a Llwynwhilwg, PL Kicks (Ymddiriedolaeth Gymunedol Abertawe), Clwb Rygbi New Dock Stars, Hwb Cymunedol Clwb Pêl-droed Tref Llanelli, Cyngor Sir Caerfyrddin ymhlith eraill.
 
Ymwelodd Maer y Dref y Cyng Mike Cranham Y.H. ac Aelod Ward Bigyn y Cyng Jeff Edmunds â’r parc cyn i’r gwaith ddechrau. Dywedodd y Cyng Cranham ‘Rwyf wrth fy modd bod gwaith ar fin dechrau ar y prosiect hwn a fydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer pobl ifanc lleol a Grwpiau Cymunedol yma yn y Cwrt Cruyff Penyfan newydd’. Dywedodd y Cyng Edmunds 'Mae'n bleser mawr gweld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth, mae'n ganlyniad gwaith partneriaeth ardderchog rhwng y Gymuned yma ym Mhenyfan, y Cyngor Tref, y Cyngor Sir a'r partneriaid ariannu, edrychaf ymlaen at weld y cyfleuster. yn agor yn fuan iawn'.