Polisi Pryderon a Chwynion
Mae Cyngor Tref Llanelli wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych am ein gwasanaethau.
Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn siŵr yn eu cylch. Os yn bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau ei’n fod wedi'u gwneud.
Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl iddo yr ydym wedi methu â'i ddarparu.
Os cawsom rywbeth yn anghywir, byddwn yn ymddiheuro a lle bo hynny'n bosibl byddwn yn ceisio cywiro pethau.