Canolfan Bowlio Dan Do Selwyn Samuel

Mae Cyngor Tref Llanelli wedi symud yn gyflym gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu cefnogaeth i'r GIG a'i frwydr yn erbyn y Coronafirws.

O ganlyniad, mae'r Cyngor Tref wedi prydlesu Canolfan Selwyn Samuel i’r Cyngor Sir ar gyfer darparu lle gwelyau ychwanegol ar gyfer darpariaeth gofal eilaidd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Shahana Najmi, ‘Bydd y Cyngor Tref yn darparu Canolfan Selwyn Samuel yn ddi-rent i’r Cyngor Sir a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn cynorthwyo yn y frwydr fyd-eang hon yn erbyn y Coronavirus. Mae’n hollbwysig ein bod i gyd yn dilyn y canllawiau swyddogol ac yn cyfyngu ar ein hamlygiad o’r firws trwy aros adref lle bynnag y bo modd ac aros yn ddiogel. ’

Bydd y Ganolfan yn cael rhai newidiadau dros dro er mwyn darparu amgylchedd diogel i'r staff a'r cleifion sy'n ymladd y firws. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwrthdroi pan nad oes angen mwyach am le ychwanegol i welyau.