Democratiaeth a Dinasyddiaeth - Prosiect Cwrdd â'r Maer

Bob blwyddyn mae Cyngor Tref Llanelli yn cynnal rhaglen Democratiaeth a Dinasyddiaeth o'r enw 'Cwrdd â'r Maer'. Gwahoddir pob Ysgol Gynradd yn Nhref Llanelli i fynychu Swyddfeydd Cyngor y Dref i ddysgu am ddemocratiaeth, y Cyngor Tref, rôl Maer y Dref, dinasyddiaeth a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn ystod 2023-24 mynychodd dros 300 o ddisgyblion ysgol gynradd a thua 120 o ddisgyblion ysgolion uwchradd a choleg.

Mae’r prosiect hefyd yn gwahodd disgyblion o ysgolion uwchradd Coleg Sir Gâr ac ysgolion uwchradd Llanelli sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwleidyddiaeth.

Mae’r prosiect yn rhan o weithgareddau’r Cyngor Tref sy’n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn 2024 dyfarnwyd y ‘Mentriad Iechyd Democrataidd Orau’ i’r prosiect yng Nghynhadledd Gwobrau Un Llais Cymru