Cynlluniau Maes Chwarae Clos yr Ysgol

Bydd gwelliannau’n cael eu gwneud yn fuan ar y maes chwarae yng Nghlos yr Ysgol ger Heol Alban yn Ward Bigyn yn Llanelli. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gyda chyllid gan Gyngor Tref Llanelli a Chronfa A106 a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd y gwaith a fydd yn cynnwys gosod cylchfan sy'n gyfeillgar i'r anabl, sbringer newydd a siglen dwbl yn dechrau tua 28ain Mai 2024. Bydd y man chwarae ar gau am gyfnod gwaith y prosiect a ragwelir fydd tua phythefnos.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Tref, y Cynghorydd David Darkin ‘Rwy’n falch iawn bod y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir wedi gallu ariannu’r gwelliannau hyn i faes chwarae Clos yr Ysgol, dim ond yn y lleoliad penodol hwn yr oedd y cyllid A106 ar gael i'w gwario. Mae’r prosiect eto’n dangos ymrwymiad y Cyngor Tref i ddarparu’r cyfleusterau gorau posibl ar draws ein Parciau a Chaeau Chwarae.

Dywedodd y Cyng Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Bolisi Cynllunio “Mae’n wych gweld gwaith yn dechrau i wella’r ardal chwarae yng Nghlos yr Ysgol, yn enwedig gosod cylchfan a fydd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Daw’r cyllid i uwchraddio’r maes chwarae o’n cronfa A106, sy’n ofyniad cynllunio ar ddatblygwyr tai i dalu’r Cyngor Sir i ddarparu ar gyfer amwynderau mewn ardal benodol.”