Gwasanaeth Chwaraeon Ieuenctid a Gweithgareddau

Mae Gwasanaeth Chwaraeon Ieuenctid a Gweithgareddau Cyngor Tref Llanelli yn darparu ar gyfer gweithgareddau dan oruchwyliaeth ar draws y Parciau, Mannau Agored a Chanolfannau Cymunedol a reolir gan y Cyngor Tref. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gyda Chlybiau Chwaraeon a sefydliadau ar draws Llanelli i gefnogi datblygiad eu gwasanaethau ac i ddarparu cyfleoedd gweithgaredd ychwanegol i drigolion Llanelli.

Datblygir y gwasanaeth newydd hwn gan Swyddog Chwaraeon, Ieuenctid a Gweithgareddau ymroddedig y Cyngor Tref, Sion Thomas.

Ceir rhagor o wybodaeth a chalendr o ddigwyddiadau ar dudalennau Cyfryngau Cymdeithasol y Cyngor Tref. I gysylltu â Sion am fwy o wybodaeth e-bostiwch enquiries@llanellitowncouncil.gov.uk neu ffoniwch 01554 774352.