AIL-AGOR Y CLWB BOWLIO YNG NGHANOLFAN SELWYN SAMUEL O 12FED MEDI 2022

Mae Clwb Bowls Dan Do Llanelli a Chyngor Tref Llanelli yn ail-agor y Clwb Bowlio yng Nghanolfan Selwyn Samuel o 12fed Medi 2022. Caewyd y ganolfan yn ystod pandemig COVID19 ac fe'i defnyddiwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel Ysbyty Maes.

Cyn ailagor ar gyfer Tymor 2022-23, bydd y carped bowlio hefyd yn cael ei adnewyddu.

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Bowlio Dan Do Llanelli yng Nghanolfan Selwyn Samuel ar y 10fed o Awst am 7yh, a gofynnir i bob aelod wneud pob ymdrech i fod yn bresennol. Dylai aelodau a rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Clwb gysylltu ag Ysgrifennydd y Clwb, Tony Rees.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Tref Llanelli, y Cynghorydd David Darkin ‘Mae Cyngor Tref Llanelli yn falch iawn o’r ffaith ein bod wedi gallu cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn eu brwydr yn erbyn y pandemig drwy ddarparu’r Ganolfan fel Ysbyty Enfys Selwyn Samuel. Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu’n ôl ein ffrindiau o Glwb Bowls Dan Do Llanelli ac at weld y Clwb yn ailagor yn llwyddiannus ar gyfer Tymor 2022-23’.