TRETH Y CYNGOR WEDI RHEWI AM YR AIL FLWYDDYN

Mae Cyngor Tref Llanelli wedi rhewi Treth y Cyngor am yr ail flwyddyn yn olynol i adlewyrchu'r pwysau ariannol sy'n wynebu trigolion lleol yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Tref, y Cynghorydd John Jenkins."Gyda phrisiau ynni yn mynd drwy'r to, chwyddiant ar ei uchaf ers tro a chostau byw yn codi, roedd y Cyngor Tref yn unfrydol nad oedd am ychwanegu at y baich ariannol ar drethdalwyr lleol," 

“Efallai mai dim ond elfen fach o Dreth y Cyngor yn gyffredinol yw hi ond rwy’n falch bod Cyngor Tref Llanelli wedi gallu gwella’r gwasanaethau y mae’n eu darparu i gymuned Llanelli heb orfod codi’r swm o arian y mae’n ei dynnu oddi ar drethdalwyr lleol. O'r Cwrt Cruyff pob tywydd newydd ym Mhenyfan i’r cyfleusterau parc sglefrio newydd ym Mharc y Bobl, i’r bartneriaeth ragorol gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ym Mharc Howard a fydd, rhydem yn gobeithio, yn arwain at Blasty wedi’i adnewyddu gyda chaffi ac adfer y safle bandiau, i chyfleusterau parciau chwarae dŵr a phyllau padlo, basgedi crog yng nghanol y dref a chanolfannau cymunedol am bris rhesymol, i enwi dim ond rhai, mae Cyngor Tref Llanelli yn cyflawni dros drigolion Llanelli ym mhob rhan o’n tref.”