Diweddariad Prosiect Amgycheddol Parc y Goron

Agorodd Maer Tref Llanelli, y Cynghorydd Cranham, a'r Dirprwy Faer, y Cynghorydd Rees, y prosiect bioamrywiaeth ym Mharc y Goron ddydd Gwener. Gwnaed y gwaith plannu gan Feithrinfeydd Wrenvale gyda chefnogaeth Disgyblion Ysgol Pen Rhos a Gwirfoddolwyr Cymunedol diolchwyd iddynt am eu gwaith caled yn gosod y prosiect. Ariannwyd y prosiect  gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a ddarperir mewn partneriaeth â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.