Prosiect 'Seaside Kicks'

Ar Ddydd Mawrth 22ain Mehefin 2021, roedd Maer Tref Llanelli a’r Dirprwy Faer y Cynghorwyr Mike Cranham a Sean Rees wedi ymweld a Prosiect ‘Seaside Kicks’.

Ymwelodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn â’r prosiect i gyflwyno ‘Gwobr Partneriaeth Heddlu Dyfed-Powys’ i’r drefnwyr.

Mae prosiect ‘Seaside Kicks’ sydd wedi'i ariannu'n lleol gan y Comisiynydd, wedi bod yn rhedeg am dros flwyddyn yn ardal Llanelli lle mae tua 60 o blant a phobl ifanc lleol yn mynychu sesiynau awyr agored wythnosol am ddim i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi pêl-droed, yn ogystal â sesiynau anffurfiol sy'n mynd i'r afael â materion troseddau. Mae trefnwyr hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm plismon cymunedol lleol i helpu i wella bywydau pobl ifanc leol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn

“Roedd yn wych gallu ymweld â ‘Seaside Kicks’ unwaith eto’r wythnos hon a gweld y mwynhad y mae’r sesiynau yn ei gynnig i blant a phobl ifanc yr ardal. Mae'n bleser mawr gennyf gyflwyno gwobr Partneriaeth Heddlu Dyfed-Powys i'r trefnwyr sy'n cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae'r sesiynau'n ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc yr ardal. Fel un sy'n frwd dros chwaraeon, rwy'n gwbl ymwybodol o'r dylanwad y mae chwaraeon ac ymarfer corff yn ei gael ar iechyd a lles unigolion a chymunedau yn gyffredinol”.

“Mae’n wych gweld bod cymaint o blant a phobl ifanc yn troi allan ar Seaside yn wythnosol. Mae'r sesiynau hyn yn gynhwysol, ac o bosibl yn newid bywyd, ac maent hefyd wedi caniatau i swyddogion heddlu lleol ddatblygu perthnasoedd gwell â phobl ifanc yr ardal”.

“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Sean Rees, a phawb yng Nghyngor Tref Llanelli am weithio’n agos gyda mi a Heddlu Dyfed-Powys i ddod â’r fenter ysbrydoledig hon i’r ardal”.

Ychwanegodd Craig Richards o Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

“Mae Prosiect Swans Kicks mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn cynnig lle diogel i bobl ifanc yr ardal ddod i chwarae pêl-droed mewn cyfleuster rhagorol, am ddim. Rydym yn falch iawn ac wedi cael ein anrhydeddu i ennill Gwobr Partneriaeth Heddlu Dyfed Powys a diolch i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu am ei gefnogaeth barhaus i'r prosiect.

“Mae wedi bod yn wych i dangos i’r comisiynydd yr effaith y mae ein hyfforddwyr yn ei chael ar bobl ifanc yn Llanelli trwy helpu i fagu eu hyder a darparu sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw, ac hefyd i’w hannog i ymdrechu am ddyfodol cadarnhaol”.

Yn ddiweddar, mae Cody Stevens, un o'r cyfranogwyr, wedi symud o fynychu'r sesiynau i ddod yn wirfoddolwr, gan annog pobl ifanc eraill i gymryd rhan, gan ysbrydoli ei gyfoedion.

Dywedodd “Rwy’n mwynhau fy amser yn gwirfoddoli gyda’r Elyrch i lawr yn Glan y Môr. Mae wedi gwella fy hyder yn aruthrol. Rwy'n mwynhau hyfforddi, gan ddangos sgiliau newydd i'r plant a fy nghariad at y gêm.