Gefeillio
Ar y 1af o Orffennaf 1989, mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Selwyn Samuel, gefeilliodd Llanelli yn ffurfiol â'r dref Ffrengig bwysig Agen, sydd wedi'i lleoli yn ardal Lot-et-Garonne, gyda seremoni lofnodi gyfatebol yn Agen ar Ebrill yr 8fed 1990. Mae ardal Lot-et-Garonne yn un o'r prif ardaloedd yn Ffrainc ar gyfer cynhyrchu ffrwythau a llysiau, ac yn arbenigo yn eirin Agen, tomatos Marmande, melonau o Nerac, gwinoedd o lethrau Buzet a Duras, ac asbaragws o Fargues.
Mae tref Agen rhwng Toulouse a Bordeaux, ac mae ganddi boblogaeth o oddeutu 35,000. Mae'r dref hefyd wedi gefeillio â Tuapse (Rwsia), Toledo (Sbaen), Dinslaken (Yr Almaen) a Corpus Christi (Texas).
Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant, a chanolfan ddosbarthu Agen yw'r chweched fwyaf yn Ffrainc ar gyfer marchnata ffrwythau a llysiau. Mae ganddi yn ogystal farchnad dda byw wythnosol fawr. Llysiau yw'r prif gynnyrch lleol, ond mae'r ardal yn enwog am ei heirin sychion gwych ac am y ddiod Armagnac, sy'n debyg i Cognac.
Mae yno gyfleusterau ardderchog ar gyfer amrywiol chwaraeon gan gynnwys tennis, nofio, beicio, athletau, pêl-droed a rygbi.
Yn sgîl datblygiad y cyswllt gefeillio er 1989 mae llawer o gysylltiadau cadarn wedi'u sefydlu rhwng sefydliadau cyfatebol, a'r pwysicaf o'r rhain yw cyfnewidiadau ysgol blynyddol.
Ceir mwy o wybodaeth gan Cadeirydd Cymdeithas Gefeillio Llanelli a'r Cylch, Mr. Paolo Piana, E-bost: pianapaolo@hotmail.com )