Atyniadau Lleol

Mae llawer i'w weld ac i'w wneud yn Llanelli a'r cyffiniau. Ymwelwch a gwefannau Darganfod Sir Gar a Caru Llanelli am fwy o wybodaeth neu cliciwch ar un o'r dolennau i gael blas o beth sydd ar gael. 


Y Scarlets

Llanelli yw un o'r trefi rygbi enwocaf yn y byd. Mae'n gartref i glwb sydd a'r gefnogaeth mwyaf ingol yn y byd, y Scarlets - sydd a hunaniaeth na welir mohono yn unman arall.

Visit the Y Scarlets web site


Clwb Pel Droed Llanelli

Mae'r Cochion yn Clwb Gynghrair Pel Droed Cymru. Roeddent yn ennillwyr Cwpan Cymru yn 2010/2011.

Visit the Clwb Pel Droed Llanelli web site


Clwb Golff a Gwledig Machynys

Yn gwrs lincs pencampwriaeth modern, dylunwyd Penrhyn Machynys i herio'r chwaraewyr gorau o dan amodau pencampwriaeth - ac eto bod yn foddhaol i rai a handicap uchel, drwy ddefnyddio hyd at bump tee bob twll.

Visit the Clwb Golff a Gwledig Machynys web site


Parc Arfordirol y Mileniwm

Mewn cwta 10 mlynedd, cafodd y 22 cilomedr o arfordir ar hyd glannau gogleddol Aber yr Afon Llwchwr eu trawsnewid yn gasgliad unigryw o atyniadau ymwelwyr, cynefinoedd bywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden.

Visit the Parc Arfordirol y Mileniwm web site


Plas Llanelly

Plas Llanelly yw curiad calon Llanelli, yn adlewyrchu’r gwych a’r gwachul yn hanes y dref, ac a gofleidiodd y chwyldro diwydiannol a arweiniodd at ffyniant.

Visit the Plas Llanelly web site


Canolfan Selwyn Samuel

Yng Nghanolfan Selwyn Samuel mae chwech lon fowlio dan-do yn ogystal a thy bwyta a bar. Mae'n cael ei defnyddio ar gyfer ystod o weithgareddau gan gynnwys cyngherddau, seminarau ac arddangosfeydd.

Visit the Canolfan Selwyn Samuel web site


Canolfan Hamdden Llanelli

Os ydych yn dod i gael ymarfer ben bore yn y gampfa, yn ymuno â ffrindiau ar gyfer gêm o bêl-droed pump-bob-ochr neu’n gwylio eich plant yn dysgu nofio, cewch groeso yng Nghanolfan Hamdden Llanelli.

Visit the Canolfan Hamdden Llanelli web site


Parc Howard

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard wedi'u cartrefu mewn plasty Eidalaidd o'r 19eg ganrif, a leolir mewn 24 erw o barcdir i'r gogledd o ganol y dref . Yn y parc mae pwll i'r de a gardd suddedig i'r gorllewin, hefyd mae lawntiau bowlio , cyrtiau tenis , ardal chwarae plant a phwll rhodli.

Visit the Parc Howard web site


Canolfan Gwlyptir Cenedlaethol Cymru

Gwerth enfawr gwlyptiroedd a'u bywyd gwyllt, a'r bygythiad mawr maent yn wynebu sy'n gyrru cenhadaeth WWT, i'w gwarchod a rheoli'r lles maent yn ddwyn i bobl mewn ffordd gynaladwy.

Visit the Canolfan Gwlyptir Cenedlaethol Cymru web site


Marchnad Llanelli

Mae gwefr wirioneddol ym Marchnad Llanelli. Mae'n orlawn a chymeriad a'r swn a'r arogl sy'n gysylltiedig a neuaddau marchnad traddodiadol oes aur. Awyrgylch brysur, hapus yn llawn stondinau sy'n cael eu rhedeg gan fwy na 50 o gwmniau teuluol.

Visit the Marchnad Llanelli web site


Canolfan Siopa Santes Elli

Popeth fyddwch ei angen dan un to. Mae lle parcio i 1568 car yn agos i'r ganolfan gan gynnwys lle parcio i bobl ag anabledd a rhiant & phlant bach.

Visit the Canolfan Siopa Santes Elli web site

Related Pages