Swyddog Datblygu Cymunedol Llanelli

Mae'r Cyngor yn cyflogi Swyddog Datblygu Cymuned profiadol i gynghori a chynorthwyo grwpiau cymunedol i baratoi dogfennau cyfansoddiad, cynlluniau busnes a cheisiadau ariannu. Mae grantiau hefyd ar gael i gynorthwyo sefydliadau lleol; gall sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol hefyd eu cynorthwyo os gallent ddangos fod tref a/neu bobl Llanelli yn elwa o'u gwaith.

Cysylltwch a Delyth Jones (01554 779995) os hoffech drafod unrhyw agwedd o ddatblygiad cymunedol yn Llanelli.