Bioamrywiaeth a datblygu amgylcheddol

Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn nodi’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau y mae’n rhaid i bob awdurdod lleol ‘geisio cynnal a gwella’ bioamrywiaeth wrth arfer ei gweithgareddau, a thrwy hynny hyrwyddo gwytnwch ecosystemau ’.

I Gyngor Tref Llanelli mae hyn yn golygu y dylai'r Cyngor, ym mhob polisi, gweithgaredd mewnol ac wrth reoli ein parciau a'n caeau chwarae, geisio cyfleoedd i gynnal a gwella bywyd gwyllt sy'n cael ei gynnal yn yr ardal ac i reoli'r cynefinoedd (e.e. glaswelltiroedd, coed, gwlypdiroedd) fel eu bod mewn cyflwr mor naturiol a gwydn â bosibl.

Mae'r ddyletswydd hefyd yn cefnogi cyfrifoldebau ehangach Cynghorau Tref o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn i Gymru elwa o economi lewyrchus, amgylchedd iechyd a gwydn a chymunedau bywiog, cydlynol.

Mae'r Cyngor Tref yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Sir Caerfyrddin i reoli a chynnal Mynwent Llanelli a'r parciau a'r caeau chwarae yn Ardal Tref Llanelli. Mae gan y Cyngor hanes cadarnhaol o gyfrannu at yr amgylchedd lleol a hyrwyddo cynaliadwyedd. Mae'r cynllun gweithredu canlynol yn rhoi manylion y gweithgareddau arfaethedig y bydd y Cyngor Tref yn eu cyflawni yn y cyfnod 2019-2021 i gefnogi bioamrywiaeth ac ecosystemau Llanelli.

 

Bywyd Gwyllt yn Eich Ward - Bigyn / Elli / Lliedi / Tyisha

Bywyd Gwyllt yn Eich Ward - Glanymor

Lawrlwytho Dogfennau