Mordeithiau Hyfforddi Hwylio

Bob blwyddyn mae'r Cyngor yn darparu cyllid fel bod hyd at 4 person ieuanc, rhwng 12 a 25, sy'n byw yn ardal Cyngor y Dref yn gallu cymryd rhan mewn mordaith addysgol am wythnos ar un o Longau Tal y Gymdeithas Hyfforddi Hwylio. Mae hyn yn cynnig cyfle cyffrous i'r rhai sy'n cymryd rhan a mae'r adborth yn cadarnhau ei fod yn brofiad sy'n cael ei werthfawrogi'n arw. Am fwy o wybodaeth am gyfleon yn 2019 cysylltwch gyda'r Swyddfa ar 01554 774352.