![]() |
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
|
Capel Methodistiaid Calfinaidd Siloh, a adeiladwyd
yn ail ran yr 1870au, yw'r adeilad yma, a daeth yr achos crefyddol i
ben yn y 1970au. Prynwyd y Capel a thÿ'r gofalwr drws nesaf gan
Gyngor y Dref ym mis Ebrill 1978. Cwblhâwyd gwaith atgyweirio ac
adnewyddu sylweddol er mwyn creu Canolfan Gymunedol sy'n cynnwys prif
neuadd digon mawr i'w defnyddio ar gyfer chwarae badminton. Cydnabuwyd
y cynllun adnewyddu gan Wobr Pwyllgor Tywysog Cymru am adnewyddu adeiladau
hanesyddol.
Mae'r Ganolfan
wedi ei hadnewyddu ymhellach yn ddiweddar, pan atgyweiriwyd yr adeilad
yn helaeth (gan gynnwys tô llechi newydd) yn ogystal â gwella'r
adnoddau tu fewn. Fel Glenalla, mae'r adeilad wedi ei gofrestru gan CADW fel adeilad rhestredig Gradd 2. .
|