![]() |
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
|
|
Defnyddir y Canolfannau hyn yn helaeth gan y gymuned leol ar gyfer gweithgareddau sy'n cynnwys grwpiau chwarae, partïon penblwydd, cyfarfodydd, dosbarthiadau dawns, dosbarthiadau cadw'n heini, a.y.b. Mae gan y Cyngor hefyd bolisi sy'n caniatáu grwpiau Pensiynwyr i ddefnyddio'r Canolfannau yn rhad ac am ddim am un noson yr wythnos. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglÿn â hurio'r Canolfannau at y Cyngor (gweler Cysylltu â Ni i weld sut i gysylltu â'r Cyngor). Mae mwyafrif o'r Canolfannau wedi eu trawsnewid o'u defnydd blaenorol, er mwyn cadw rhai o adeiladau hanesyddol y dref at ddefnydd y gymuned. Y ddwy esiampl orau yw Glenalla a Maesllyn, dau gapel a ddiogelwyd gan Gyngor y Dref rhag eu dymchwel. |