![]() |
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
|
Mae tref Agen
rhwng Toulouse a Bordeaux, ac mae ganddi boblogaeth o oddeutu 35,000.
Mae'r dref hefyd wedi gefeillio â Tuapse (Rwsia), Toledo (Sbaen), Dinslaken
(Yr Almaen) a Corpus Christi (Texas).
Amaethyddiaeth
yw'r prif ddiwydiant, a chanolfan ddosbarthu Agen yw'r chweched fwyaf
yn Ffrainc ar gyfer marchnata ffrwythau a llysiau. Mae ganddi yn ogystal
farchnad dda byw wythnosol fawr. Llysiau yw'r prif gynnyrch lleol, ond
mae'r ardal yn enwog am ei heirin sychion gwych ac am y ddiod Armagnac,
sy'n debyg i Cognac.
Mae yno gyfleusterau
ardderchog ar gyfer amrywiol chwaraeon gan gynnwys tennis, nofio, beicio,
athletau, pêl-droed a rygbi.
Yn sgîl datblygiad
y cyswllt gefeillio er 1989 mae llawer o gysylltiadau cadarn wedi'u sefydlu
rhwng sefydliadau cyfatebol, a'r pwysicaf o'r rhain yw cyfnewidiadau ysgol
blynyddol.
Ceir mwy o wybodaeth
gan Ysgrifenyddes Cymdeithas Gefeillio Llanelli a'r Cylch, Mrs. Cecily
Lloyd, 'Heddfan', Rhodfa Penyrheol, Llanelli, Sir Gâr, SA15 3NX (Ffôn
01554 - 757963)(Ffacs 01554 - 770376).