Llanelli Town Council
 
 
Cysylltiadau Sirol
 
English Site Link
 

 
 
Mae canol tref Llanelli wedi ei llwyr drawsnewid yn ddiweddar. Ym 1992 ailbalmantwyd holl ardal di-draffig Stryd Vaughan a Stryd Stepney gyda cherrig palmant Efrog, a rhoddwyd canopïau gwydr llydan deniadol o flaen y siopau yn yr ardal hon er mwyn gwarchod y siopau a siopwyr yn llawer gwell rhag y tywydd.

Cafwyd ailddatblygiad sylweddol yn ail hanner y 1990au a welodd ymestyniad ardal canol y dref er mwyn cwblhau canolfan siopa modern Sant Elli, sydd yn cynnig ystod o siopau gwahanol yn ogystal ag archfarchnad ASDA, â digon o lefydd parcio ar yr wyneb gerllaw.

Mae'r ganolfan siopa newydd yn union drws nesaf i farchnad dan-do'r dref sy'n cynnig amrywiaeth o gynnyrch ffres a chynhyrchion eraill o dan yr un tô. Adeiladwyd y farchnad bresennol ym 1968, ond mae gwreiddiau'r farchnad yn mynd yn ôl i'r 13eg ganrif. Ar ddyddiau traddodiadol y farchnad, sef dydd Iau a dydd Sadwrn, cynhelir marchnad awyr-agored yn yr ardal di-draffig, a'r stondinau lliwgar yn gwerthu nwyddau o bob math.

Mae ail-ddatblygiad hir-ddisgwyliedig Stryd y Parc Uchaf ar fin dechrau, a’r disgwyl yw y daw y datblygwyr detholedig, Henry Davidson Developments Cyf., a’r gwaith i ben erbyn 2008. Fe fydd hyn yn golygu ail-fwyhâd i ran o’r dref a fu’n ddolur llygad, ac fe ddaw â mwy o ddewis siopau a nwyddau i siopwyr eu mwynhau.