|
Mae Cyngor y Dref yn darparu gwasanaethau
'gwreiddiau gwair' uniongyrchol ar gyfer y gymuned y mae'n ei chynrychioli.
- Cyfrifoldeb bob dydd am y rhwydwaith o ganolfannau
cymunedol at ddefnydd yr etholwyr
- Parc Stebonheath, cartref Clwb
Pêl-droed Llanelli, ac hefyd Clwb Athletau Amatur Llanelli.
- Canolfan Bowlio Dan-do Selwyn Samuel,
lle mae Clwb Bowlio Dan-do Llanelli yn gyfrifol am reolaeth bob dydd
yn ystod tymor bowlio dan-do (Medi i Ebrill)
- Cyd-reolaeth ers 1977 â Chyngor
Gwledig Llanelli, o'r canlynol:
- Canolfan Dydd yr Henoed yn Adeilad YMCA, Stryd Stepney, Llanelli,
sy'n cynnig bwyd cymorthdaledig i'r henoed
- Mynwent Cylch Llanelli, ac Amlosgfa newydd ei hagor Llanelli
- Cynnal rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus
- Cynnal llecyn mwynder cyhoeddus Iard Bryn, Heol Triniti
- Gweinyddiaeth rhandiroedd cyhoeddus
- Noddi mordeithiau Cymdeithas Hyfforddiant Hwylio ar gyfer ieuenctid
yr ardal
- Rhannu cyfrifoldeb am Garnifal Nadolig Blynyddol Llanelli gyda Chyngor
Gwledig Llanelli a
Chyngor Sir Caerfyrddin Carnival.
- Rhannu'r gost o gyflogi Swyddogion Cylch Datblygu Rygbi a Phêl-droed,
sy'n gyfrifol am ddatblygu'r ddwy gêm gyda phlant ysgolion yr ardal
- Darparu cymorth ariannol i ystod eang o gyrff gwirfoddol
ac elusennol lleol
-
• Rhannu cyfridfoldeb â Siambr Fasnach Llanelli am fasgedi
blodau crôg canol y dref
|