Llanelli Town Council
 
 
Cysylltiadau Sirol
 
English Site Link
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Un o adeiladau mwyaf hanesyddol Llanelli, cafodd yr enghraifft wych yma o dŷ tref Sioraidd o ddechrau'r 18fed ganrif, sydd bellach mewn cyflwr gwael, ei brynu gan Gyngor y Dref ym 1998 gyda'r bwriad o'i adnewyddu'n llwyr.

Saif Plas Llanelly, cyn dŷ tref y teulu Stepney, yn union gyferbyn ag Eglwys y Plwyf, wedi ei adeiladu ym 1714 gan Thomas Stepney, Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin. Mae hanes amrywol iawn i’r tŷ, a dywedir i John Wesley, Apostol Methodistiaeth Wesleaidd, aros yno nifer o weithiau yn ystod ei ymweliadau â Llanelli.

Cafodd y tŷ cryn dipyn o sylw fel un o’r adeiladau a ddangoswyd yng nghyfres ‘Restoration’ ar BBC2 yn 2003 gyda chefnogaeth brwd y cymeriad lliwgar Laurence Llewelyn Bowen.  Cyrhaeddodd y rownd derfynol fel ennillydd rhanbarth Cymru, ac er colli allan i Faddondai Fictoria Manceinion, cododd y gefnogaeth sylweddol a gafodd y tŷ o bell ac agos broffil y prosiect a rhoi hwb enfawr iddo.

Bwriad y prosiect yw creu canolfan treftadaeth gymunedol yn y tŷ, ac arweiniwyd ef ers y dechrau gan William Wilkins, Cyfarwyddwr y Prosiect, a ennillodd ei blwy drwy ei waith ar brosiectau uchel-broffil Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Aberglasne.

Hyd at Mehefin 2008 bu llwyddiant go dda ar yr ymdrechion i ddenu nawdd am y gwaith o adfer y tŷ, yn enwedig y £200,000 a dderbyniwyd drwy CADW a Chyngor Sir Caerfyrddin i gwrdd â rhan fwyaf o gost y gwaith brys i gadarnhau tu fewn yr adeilad, a gafodd ei gwblhau ym mis Mehefin.

Ond ar ddiwedd Mehefin daeth y newyddion y bu pawb a fu ynghlwm â’r prosiect wedi gobeithio clywed.  ‘Roedd Ymddiriedolwyr Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cymeradwyo cais ariannol a wnaed gan y Cyngor ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gâr a chytuno i rhoi £3.4 miliwn yn ogystal â £146,500 tuag at gostau datblygu’r prosiect.  Croesawyd y penderfyniad â chymysgedd o lawenydd a rhyddhad, gan iddo gyfiawnhau penderfyniad dewr Cyngor y Dref i brynu’r tŷ er mwyn ei arbed, a ffydd a dyfalbarhâd yr aelodau yn y prosiect dros gyfnod hir iawn.  ‘Roedd hefyd yn ganlyniad haeddiannol dros ben i flynyddoedd lawer o waith caled gan dîm o bobl cydwybodol, ymroddgar a gweithgar, a fydd o’r diwedd yn sicrhau dyfodol y gem wir hanesyddol yma i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae’r gwaith o ddatblygu’r prosiect i’r pwynt lle gellir gwahodd tendrau am y contract i wneud y gwaith o adfer y tŷ eisoes wedi dechrau.  Ar hyn o bryd amcangyfrifir bydd y gwaith yn dechrau ar y tŷ yn gynnar yn 2010, ac yn gorffen ar ddiwedd 2011.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru o bryd i'w gilydd, fel mae'r prosiect yn mynd yn ei flaen. Am fwy o wybodaeth cysyllter â Lynn Davies, Clerc Cyngor y Dref.  Neu ffoniwch ein gwasanaeth “Phone Llanelly House” arbennig am ddiweddariadau misol ar 01554 858101.

 

Cliciwch yma i llanw mewn holiadur cymuned Ty Llanelli.