Tref arfordirol yw Llanelli, ac fel canolfan ar gyfer
teithio o amgylch Gorllewin Cymru mae'n ddelfrydol. Mae Penrhyn hardd
Gwyr, Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro oll
yn hawdd i'w cyrraedd mewn car oddi yma.
Parc Gwledig
Pen-bre
Ar Fae Caerfyrddin
sydd i'r gorllewin o Lanelli, ceir cymysgedd gwych o lan y môr,
coetir a chefn gwlad bryniog, yn ogystal â thref hanesyddol Cydweli â'i
chastell hynafol a phenrhyn Pen-bre - aceri maith o draeth, twyni a
choedwig. Mae'r ardal hon yn cynnig nifer o gyfleusterau i ymwelwyr
gan gynnwys harbwr Porth Tywyn, ar gyfer hwylio a physgota, a Maes
Golff Ashburnham sydd o safon pencampwriaeth. Y prif atyniad er hynny
yw Parc Gwledig Pen-bre, sy'n denu dros 300,000 o bobl y flwyddyn i
fwynhau heddwch a llonyddwch coedwig Pen-bre a thraeth saith milltir
Cefn Sidan. Arferai fod yn safle i Ffatri Arfau'r Goron ond fe'i prynwyd
gan yr awdurdod lleol ym 1977. Bellach mae wedi ei drawsnewid yn gyfan
gwbl yn barc gwledig glan-môr gwych sy'n cynnig traeth godidog,
coedwig, safleodd picnic, llethr sgïo sych, llwybr tobogan, a
chwrs taro a phytio. Mae yna hefyd doreth o safleoedd parcio ceir,
Canolfan Ymwelwyr a bwyty (Ffôn 01554 - 833913).
Maes Awyr Pen-bre

Ar safle cyfagos ychydig i'r gogledd mae cyn Faes Awyr Pen-bre sydd wedi'i
ddatblygu yn Ganolfan Chwaraeon Modur Cymru ar gyfer Fformiwla 3, rasys
awtocros, certio a champau modur eraill. Mae ardal coedwig Pen-bre
yn y canol yn berffaith i'r rhai sydd eisiau mwynhau tawelwch y goedwig
a'r twyni.
Cydweli
Mae'n werth ymweld â chastell a thref Cydweli os oes gennych ddiddordeb
mewn hanes. Mae'r castell cyntaf yn dyddio'n ôl i 1106, ac erbyn
y 14eg ganrif dyma oedd porthladd prysuraf de Cymru. Mae yma eglwys hanesyddol
yn ogystal a adeiladwyd yn y 13eg ganrif i wasanaethu'r Priordy Benedictaidd.
Mae amgueddfa ddiwydiannol wedi'i datblygu ar hen safle gweithfeydd tunplat
Cydweli.
Parc
Arfordirol y Mileniwm
Daeth
Llanelli yn wir i'r amlwg wrth ddathlu'r mileniwm newydd pan agorwyd
Parc Arfordirol unigryw y Mileniwm. Mae'r prosiect mawreddog £27.5
miliwn yma wedi trawsnewid ac ychwanegu at 22 cilomedr o'r morlin sy'n
ymestyn o bont Casllwchwr yn y dwyrain i Barc Gwledig Pen-bre yn y
gorllewin, wedi diogelu cynefin bywyd gwyllt gwerthfawr ac wedi annog
pobl i brofi a mwynhau byd natur.
Agorwyd y Parc
Arfordirol yn swyddogol gan ei Mawrhydi'r Frenhines ar 12fed Mehefin,
2002 yn ystod taith ei Jiwbili Aur. Mae'n cynnwys nodweddion fel 200
erw o gynefin gwlyptir (gan helaethu Canolfan Adar y Gwlyptir boblogaidd
Penclacwydd - Ffôn 01554 741087 - sydd wedi ei modelu ar Ganolfan
enwog Syr Peter Scott yn Slimbridge, Sir Gaerloyw), canolfan chwaraeon
dwr, llynnoedd pysgota bras, dwy bont dir enfawr, coedwigoedd cymunedol,
safle cynnal digwyddiadau a gweithgareddau awyr agored (lle cynhaliwyd
Eisteddfod Genedlaethol 2000), celfyddydweithiau cyhoeddus a chwrs
golff wedi ei gynllunio gan Jack Nicklaus sydd i fod i'w gwblhau yn
2003. Cysylltir yr holl nodweddion ac adnoddau yma gan lwybr cerdded
a beicio di-dor y gallwch ymuno ag ef mewn sawl man strategol ar hyd
y Parc. (Rhif Ffôn Swyddfa Prosiect Parc Arfordirol y Mileniwm
- 01554 777744).
Canolfan Hamdden
Llanelli
Mae safle hamdden wedi'i ddatblygu ym Mharc y Bobl yng Nghilgant y
Parc sy'n cynnwys Pwll Nofio'r Jiwbilî a agorwyd yn wreiddiol
ym 1963 ac sydd wedi'i adnewyddu'n llwyr. Mae'n cynnwys prif bwll
25 metr gyda slefr hydrolig, pwll i ddechreuwyr, bath Spa, gwelyau
haul, gwasanaeth tylino a swît sauna moethus. Mae'r cyfleusterau
canolfan hamdden integredig yn cynnwys neuadd chwaraeon aml-bwrpas
ar y llawr isaf sy'n gallu cynnwys dau gwrt tennis maint-llawn o
safon ryngwladol, a'r rhain yn troi'n wyth cwrt badminton, campfa
codi pwysau yn llawn offer, dau gwrt sboncen, cyfleusterau meithrinfa
ar gyfer babanod hyd at ddwy flwydd oed, a rhai ar gyfer plant 2-5
mlwydd oed yn gysylltiedig â man chwarae allanol. Ar yr ail
lawr mae dwy ystafell ddigwyddiadau, siop, a balconïau gwylio.
Ar y trydydd llawr ceir bar lolfa trwyddedig, caffi, a balconïau
gwylio. Mae cyfleusterau lifft yn sicrhau y gall pobl fethedig ddefnyddio'r
holl safle. (Ffôn 01554 774757).
Canolfan Bowlio Dan-do Selwyn Samuel

Y drws nesaf i'r ganolfan hamdden mae Canolfan Selwyn Samuel sy'n cynnwys
chwe lawnt fowlio dan-do a chyfleusterau bwyty a bar. Mae'r Ganolfan ar
agor saith diwrnod yr wythnos drwy gydol y tymor bowlio
dan-do (Medi - Ebrill). Mae llawer o gystadlaethau bowls cenedlaethol
a rhyngwladol wedi eu cynnal yno, a rhai ohonynt wedi eu dangos ar y teledu
(Ffôn 01554 776506).
Yn ystod cyfnod egwyl yr haf o Fai hyd ganol Medi,
defnyddir y Ganolfan ar gyfer ystod o weithgareddau gan gynnwys cyngherddau,
arddangosfeydd, a.y.b. gyda llawr 12,000 troedfedd sgwâr. Mae ganddi'r
holl offer priodol a system oleuo llwyfan modern, llwyfan rhenciog a
stoc o gadeiriau ar gyfer uchafswm o 1,200 o bobl. Mae'r Ystafell Lliedi
cyfagos yn darparu ar gyfer derbyniadau priodas, ciniawau, digwyddiadau,
a.y.b. gydag offer disgo modern a llawr dawnsio. (Ffôn 01554 775135).
|