![]() |
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
|
Adeiladwyd Capel Methodistiaid Cymraeg Glenalla ym
1909, ac ychwanegwyd ysgoldy ym 1914. .
Gwelwyd lleihad yn y cynulleidfaoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a gwaethygu wnaeth y sefyllfa hyd nes bu rhaid cau'r Capel ym 1987. Erbyn hynny 'roedd cyflwr yr adeilad yn wael iawn. Prynwyd
y Capel gan Gyngor y Dref ym 1987, ac ym 1991 cwblhâwyd cynllun
adnewyddu a chrewyd Neuadd Ddinesig ysblennydd sydd wedi cadw cymeriad
hanfodol
yr adeilad gwreiddiol. Mae'r cyn-ysgoldy cyfagos wedi ei drawsnewid
i ganolfan gymunedol. Cydnabuwyd y cynllun adnewyddu gan Wobr Pwyllgor
Tywysog Cymru am adnewyddu adeiladau hanesyddol. Mae'r adeilad wedi ei gofrestru gyda CADW fel adeilad rhestredig Gradd 2.
|