![]() |
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||
|
|
|
Yn ystod misoedd yr haf o Fai i Fedi mae llawr bordiog yn trawsnewid
y Ganolfan yn fan arddangos 12,000 troedfedd sgwâr sydd wedi'i
defnyddio ar gyfer arddangosiadau masnach, twrnameintiau bocsio, recordiadau
teledu, seminarau a chyngherddau. Mae ganddi drwydded ar gyfer adloniant
cyhoeddus, a gall ddal cynulleidfa o 1,200.
Adeiladwyd y Ganolfan
Bowlio dan-do yma gan Gyngor y Dref am gyfanswm o £850,000. Fe'i
hagorwyd ar yr 11eg Hydref, 1986, ac mae yn lwyddiant mawr. Am wyth mis
o'r flwyddyn mae'r Ganolfan ar agor i fowlio bob dydd, gan gynnwys y pen-wythnos.
Mae nifer o bencampwriaethau cenedlaethol a rhyngwladol wedi eu cynnal
yno, a rhai ohynynt wedi eu dangos ar y teledu.
Yn Ebrill 1993, cwblhâwyd estyniad i greu Ystafell Lliedi, sy'n
cynnig cyfleusterau ar gyfer gwledda, ciniawau, derbyniadau, a.y.b.,
gyda bar a disco parhâol.